School Rep | Cynrychiolydd Ysgol

Created by Hannah Manby, Modified on Fri, 1 Aug at 10:54 AM by Hannah Manby


About the role:

School Reps represent Undergraduate and Post Graduate Taught students’ interests at a school level across a variety of channels. What this means is that they need to gather feedback about the issues that affect students in your school. They then discuss with other school reps both inside and outside of your faculty and present them to the university. They might be involved in designing or implementing changes based on the feedback you present. 


How to become a School Rep:
Applications for the position of School Rep open in the Spring with successful candidates being invited for a group interview. The group interview panel consists of the SU Academic Representation Coordinator, and University Staff that work closely with reps. Don't worry it is not a daunting process but a chance for us to see what you understand about the role and why you would be suitable. Two candidates from each school are selected to be the School Reps for the next academic year.



What does a School Rep do?

Key Responsibilities:

  • All responsibilities identified for a Subject Rep
  • Work with Subject Reps, Education Officer, Students’ Union, and University staff.
  • Raise feedback from Subject Reps in an appropriate manner
  • Co-Chair Student Staff Forums 
  • Attend the School Education Forum
  • Attend the Faculty Learning and Teaching meeting
  • Attend the Student Union Executive Committee
  • Attend Student Union Forums and AGMs
  • Attend University Level Committees
  • Support the Study Aid and Big Swansea Survey Campaigns


School Rep Personal Qualities

  • Good organisational skills. 
  • Good time management skills.
  • Good at communicating with others:  Both digitally (zoom meetings, email, etc) and in-person (face to face meetings) 
  • Commitment to making things better for students at Swansea University
  • Ability to use evidence to build a case 
  • Willingness to work in partnership with other Reps and staff members 
  • Commitment to equality, diversity and inclusion 
  • Commitment to hearing a wide variety of opinions


Am y rol:
Mae Cynrychiolwyr Ysgol yn cynrychioli safbwynt myfyrwyr Israddedig ac Ôl-raddedig ar lefel ysgol ar draws amrywiaeth o sianeli. Mae hyn yn golygu bod angen iddynt gasglu adborth am y materion sy'n effeithio ar fyfyrwyr yn dy ysgol. Yna maen nhw’n trafod gyda chynrychiolwyr ysgol eraill y tu mewn a'r tu allan i'r Gyfadran ac yn eu cyflwyno i'r Brifysgol. Gallent fod yn rhan o ddylunio neu weithredu newidiadau yn seiliedig ar yr adborth sy’n cael ei gyflwyno. 


 Sut i ddod yn Gynrychiolydd Ysgol:
Mae ceisiadau am rolau Cynrychiolydd Ysgol yn agor yn y Gwanwyn gyda'r ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfweliad grŵp. Mae panel y cyfweliad grŵp yn cynnwys Cydlynydd Cynrychiolaeth Academaidd Undeb y Myfyrwyr, a staff o’r Brifysgol sy'n gweithio'n agos gyda chynrychiolwyr. Paid â phoeni, nid yw’r broses yn frawychus, ond mae’n gyfle i ni weld beth rwyt ti'n ei ddeall am y rôl a pham byddet ti’n addas. Mae dau ymgeisydd o bob ysgol yn cael eu dewis i fod yn Gynrychiolwyr Ysgol ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.  


Beth yw gwaith Cynrychiolydd Ysgol? 

Cyfrifoldebau Allweddol: 

  • Pob cyfrifoldeb sydd wedi'i nodi ar gyfer Cynrychiolydd Pwnc 
  • Gweithio gyda Chynrychiolwyr Pwnc, y Swyddog Addysg, Undeb y Myfyrwyr, a staff y Brifysgol 

  • Nodi adborth gan Gynrychiolwyr Pwnc mewn modd priodol 

  • Cyd-gadeirio Fforymau Staff Myfyrwyr 
  • Mynychu Fforwm Addysg yr Ysgol 
  • Mynychu cyfarfod Dysgu ac Addysgu'r Gyfadran 
  • Mynychu Pwyllgor Gweithredol Undeb y Myfyrwyr 
  • Mynychu Fforymau a Chyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol Undeb y Myfyrwyr 
  • Mynychu Pwyllgorau ar Lefel y Brifysgol 
  • Cefnogi Ymgyrchoedd Cymorth Astudio ac Arolwg Mawr Abertawe 


Nodweddion Personol Cynrychiolydd Ysgol 

  • Sgiliau trefnu da 
  • Sgiliau rheoli amser da 
  • Y gallu i gyfathrebu ag eraill: Yn ddigidol (cyfarfodydd Zoom, e-byst, ac ati) ac yn bersonol (cyfarfodydd wyneb yn wyneb) 
  • Ymrwymiad i wneud pethau'n well i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe 
  • Y gallu i ddefnyddio tystiolaeth i adeiladu achos 
  • Parodrwydd i weithio mewn partneriaeth â Chynrychiolwyr ac aelodau staff eraill 
  • Ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant 
  • Ymrwymiad i glywed amrywiaeth eang o farnau 


 


 



Was this article helpful?

That’s Great!

Thank you for your feedback

Sorry! We couldn't be helpful

Thank you for your feedback

Let us know how can we improve this article!

Select at least one of the reasons
CAPTCHA verification is required.

Feedback sent

We appreciate your effort and will try to fix the article